DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL

 

Grŵp Rhyng-weinidogol ar gyfer Masnach

DYDDIAD

25 Medi 2023

GAN

Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi

 

 

Yn unol â'r cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol, gallaf adrodd i'r Aelodau fy mod yn bresennol yn y Grŵp Masnach Rhyngweinidogol ar 7 Medi.

 

Yn bresennol yn y cyfarfod roedd:

 

     Y Gweinidog Huddleston, Adran Busnes a Masnach Llywodraeth y DU.

     Y Gweinidog Lochhead, y Gweinidog Busnesau Bach, Arloesi a Masnach, Llywodraeth yr Alban.

     Roedd gweinidogion Swyddfa Cymru a Swyddfa Gogledd Iwerddon hefyd yn bresennol.

 

Mae'r Grŵp Masnach Rhyngweinidogol yn darparu'r prif fforwm i drafod materion polisi masnach rhwng Llywodraeth y DU, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru.

 

Yn y cyfarfod, buom yn trafod llofnodi'r Cytundeb Partneriaeth Traws-Môr Tawel Cynhwysfawr a Chynyddol yn ddiweddar, yn ogystal â'r wybodaeth ddiweddaraf ar drafodaethau'r Cytundeb Masnach Rydd parhaus gydag India a Chanada.